Pam Patagonia?
Roedd y Parchedig Michael D. Jones eisiau sefydlu gwladfa newydd Gymraeg. Yno, byddai’r iaith Gymraeg yn ddiogel rhag dylanwad y Saesneg.
Fe wnaeth y Pwyllgor Gwladfaol, a sefydlodd Michael D. Jones, ymchwil i weld ble fyddai’r lle gorau i greu Cymru newydd y tu hwnt i Gymru fach. Cawsant gyngor gan Gymry o Unol Daleithiau America (UDA) mai Patagonia fyddai’r lle gorau.
Roeddent yn gwybod na fyddai UDA yn addas. Roedd ymfudwyr i Ogledd America yn anghofio am eu mamwlad yn gyflym, ac yn troi’n Americaniaid. Dim gwerth!
Edrychodd ar wledydd eraill lle byddai’n bosib creu gwladfa. Beth am Awstralia? Brasil? Palesteina? Ystyriodd Michael D. Jones bob un o’r gwledydd hyn hefyd.
O’r diwedd, daeth cyfle ardderchog pan gafodd y Cymry gynnig tiroedd i’w ffermio gan Lywodraeth yr Ariannin. Dyma le pell o bobman – a dim Saesneg! Perffaith.





