Bwyd ym Mhatagonia a Chymru
Mae nifer o wledydd yn enwog am eu bwydydd. Er enghraifft, mae’r Eidal yn enwog am basta a gwin, mae Gwlad Belg yn enwog am siocled, a’r Almaen yn enwog am selsig.
Ond pa fwydydd mae Patagonia a Chymru yn enwog amdanyn nhw?
Yn yr adran hon, cewch flasu’r bwydydd traddodiadol hynny a dysgu ambell i rysáit hefyd.
Mae'r empanada yn fwyd poblogaidd iawn ym Mhatagonia.





